Am bleser yw cynhyrchu’r fersiwn Gymraeg o The Wee Littles gan Magpie 6 Media i S4C.
Efa a’i gwên hyfryd sy’n serennu ac mae wedi bod wrthi’n lleisio’n ddiwyd i ni drwy’r gwyliau haf. Da iawn ti Efa!
Rydym yn lleisio yn Cranc Audio a Dewi Evans sy’n golygu. Casia Wiliam sy’n trosi’r gyfres i ni.
