Cyfleoedd Castio

Tach 25, 2024

Yn gweithio i Mosaic Films ar gyfer BBC Bitesize, ry’n ni’n chwilio ar dalent ifanc sy’n siarad Cymraeg!

Ry’n ni’n chwilio am gyflwynydd ar gyfer cyfres o ffilmiau byrion ar ramadeg Cymraeg ar gyfer BBC Bitesize. Bydd y fideos yn egluro pwyntiau gramadeg Cymraeg yn Saesneg yn gryno ar gyfer cynulleidfa o blant 11 – 14 oed. Bydd y ffilmio yn digwydd mewn stiwdio, gyda sgrin werdd, a bydd y cynnwys terfynol yn cael ei ddangos ar-lein mewn fformat digidol ffurf fer. Byddwn yn ffilmio ganol mis Ionawr am un diwrnod mewn stiwdio yng Nghaerdydd neu’r cyffuniau.

CYFLWYNYDD

Gofynion:

  • Rhwng 18 a 23 oed
  • Cymraeg a Saesneg rhugl
  • Steil wybodus, hyderus, clir a chynnes wrth gyflwyno
  • Ffafrir profiad blaenorol ar gamera neu gefndir mewn addysg/cyflwyno

I’w ddanfon atom:

  • Fideo byr (1 munud 30 eiliad) yn cyflwyno’ch hun, gan gynnwys pytiau mewn Cymraeg a Saesneg

Dyddiadau Allweddol:

  • Cyflwyniadau i’n cyrraedd erbyn: 6/12/24
  • Cyfnod Ffilmio: canol Ionawr 2025

CYFRANWYR

Rydym hefyd yn chwilio am gyfranwyr / actorion ifanc ar gyfer cyfres o ffilmiau i gyd-fynd gyda’r fideos gramadeg. Bydd y fideos yma’n dilyn ffurf ddogfennol ac yn defnyddio sgyrsiau i arddangos pwyntiau gramadeg. Bydd y fideos yn trafod bywydau bob dydd, hobïau a barn y cyfranwyr. Bydd y cynnwys terfynol yn cael ei ddangos ar-lein mewn fformat digidol ffurf fer. Byddwn yn ffilmio yng Nghaerdydd a’r cyffiniau o ganol Ionawr tan ganol Chwefror.

Gofynion:

  • Rhwng 18 a 23 oed
  • Cymraeg rhugl
  • Yn gynnes, yn hyderus, naws sgwrsiol sydd â’r gallu i ymgysylltu â dysgwyr.
  • Rhaid bod yn gyfforddus yn dilyn sgript a siarad ar gamera
  • Yn gyfforddus yn rhannu gwybodaeth bersonol sylfaenol ar y sgrin (trafod hobïau neu hoff gerddoriaeth, er enghraifft)

I’w ddanfon atom:

  • Fideo fer (1 munud 30 eiliad) yn cyflwyno eich hun
  • Perfformiad o sgript 1 munud o hyd. Cysylltwch â Siwan i dderbyn copi.
  • Mewn e-bost, rhowch fanylion hobïau, profiadau, neu leoliadau sy’n gysylltiedig â’ch bywyd bob dydd a allai lywio’ch stori yn y gyfres

Dyddiadau Allweddol:

  • Cyflwyniadau i’n cyrraedd erbyn: 6/12/24
  • Cyfnod Ffilmio: canol Ionawr 2025 i ganol Chwefror

Os oes gennych gwestiynau pellach ac i holi am sgript, cysylltwch â Siwan: siwan@twtproductions.cymru

Dyma’r cyfeiriad hefyd ar gyfer danfon eich fideos