Sefydlwyd Cynyrchiadau Twt gan Siwan Jobbins. Dechreuodd Siwan ei gyrfa ym myd adloniant ysgafn a rhaglenni plant, a chafodd un o’i chynyrchiadau cyntaf, CiC ei enwebu ar gyfer BAFTA Plant.
Ymunodd ag S4C fel Comisiynydd Rhaglenni Plant, lle bu’n uwchgynhyrchydd ar nifer o gyfresi rhyngwladol, gan gynnwys Holi Hana a’r clasur, Sam Tân.
Parhaodd Siwan ei gyrfa fel Uwch Gynhyrchydd gyda stiwdio Dinamo, a brocera’r cydgynhyrchiad cyntaf rhwng S4C, RTÉ a CBeebies, sef Abadas – cyfres feithrin a ddyfeisiwyd ac a gynhyrchwyd ganddi.
Yn ogystal â phrosiectau Cynyrchiadau Twt, mae Siwan yn gweithio fel cynhyrchydd a rheolydd prosiect i gwmnïau a darlledwyr megis Boom Plant, BBC Bitesize a CBBC, ar brosiectau megis Danger Mouse ac Anim8.
Mae Siwan yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig.
twt – dim lol