Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Ho Ho Rights i ddod â Crawc a’i Ffrindiau, i wylwyr Cyw.
Wedi ei seilio ar lyfrau’r Albanwr Kenneth Grahame,
The Wind in the Willows, mae’r gyfres newydd hon yn addasiad o’r gyfres Toad and Friends.
Ni’n edrych ymlaen yn arw at fynd nôl mewn i’r stiwdio i recordio gyda thalent lleisio gwych o Gymru , gan obeithio na fydd lleisau neb yn crawcian yn ormodol!

 

Comisiwn newydd sydyn tu hwnt!

Fyddwn ni ôl yn y stiwdio wythnos nesaf gyda Caru Canu a Stori cyfres 3.

Diolch yn fawr iawn i Sioned Geraint, Angharad Thomas a’r tîm Materion Busnes yn S4C am fynd ati fel lladd nadroedd i gomisiynu a chytundebu hwn  mewn 2 fis.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at fynd ati i weithio gyda’r tîm gwych yn Picl Animation, Cracking Productions, Cranc Audio, a’r Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones a gwneud defnydd gwych o decstilau gwlân Cymreig bendigedig Melin Tregwynt. Diolch enfawr i’n hawduron Anna-Lisa Jenaer a Branwen Gwyn am ysgrifennu hynod gyflym ac wrth gwrs i’n ‘Cari’, Elin Davies.

 

Dathlu Wythnos Llyfrgelloedd gyda Booktrust Cymru

Wyddoch chi mai Hydref 3-9 yw Wythnos Llyfrgelloedd? Fel mae’n digwydd, cawsom ni’r pleser o ddathlu llyfrgelloedd gwych Cymru drwy ffilmio Dafydd Lennon, cyflwynydd newydd Cyw yn darllen un o lyfrau cynllun ‘Pori Drwy Stori’ Booktrust Cymru, ‘Yr Arth a’i Llyfr Arbennig’ yn Hwb Ystum Taf, Caerdydd.

Lleoliad gwych, tîm cyfeillgar, coffi arbennig a darlleniad hyfryd – am ffordd wych i dreulio bore gwyntog, hydrefol.

Bydd y ffilm ar lein yn fuan.