Beth Rydym Wedi Bod Yn Gwneud..

Mae’n hâf o liw gyda’r Blociau Lliw

Mae’n haf o liw yma yn swyddfa Cynyrchiadau Twt!

Rydym newydd ddechrau ar fersiwn Gymraeg o sioe hynod boblogaidd CBeebies, Colour Blocks.

Bydd Blociau Lliw’n dechrau darlledu fis Hydref felly ry’n ni wrthi fel lladd nadroedd yn paratoi ar gyfer llu o sesiynau canu a recordio. Bydd ‘na ganu yn y cymoedd cyn diwedd mis Awst wrth i ni deithio i stiwdio Dyfan Jones yn Aberdâr i ddechrau recordio’r caneuon cyn symud yn reit handi at Cranc yng Nghaerdydd i recordio’r lleisiau.

Bydd Blociau Lliw yn dechrau darlledu ar Cyw fis Hydref

 

 

 

TŵnsTwt

Yn dilyn proses dendro, rydym yn falch tu hwnt i fod yn un o’r cwmnïau sydd ar Fframwaith Dybio Cartwnau S4C, fydd yn golygu y byddwn yn dybio cartwnau i’r sianel am y 4 mlynedd nesa’. Ni’n methu aros i gychwyn ar y gwaith!

Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Ho Ho Rights i ddod â Crawc a’i Ffrindiau, i wylwyr Cyw.
Wedi ei seilio ar lyfrau’r Albanwr Kenneth Grahame,
The Wind in the Willows, mae’r gyfres newydd hon yn addasiad o’r gyfres Toad and Friends.
Ni’n edrych ymlaen yn arw at fynd nôl mewn i’r stiwdio i recordio gyda thalent lleisio gwych o Gymru , gan obeithio na fydd lleisau neb yn crawcian yn ormodol!