Castio a Chynhyrchu

Meh 20, 2018

Cyfnod o gastio a chynhyrchu buodd hi’r Gwanwyn yma gan ddechrau gyda chastio chwe disgybl ysgol i gymryd rhan mewn cyfres o ffilmiau yn cynnig syniadau ar dechnegau adolygu TGAU. Unwaith eto, mae’n fy rhyfeddu cymaint o dalent naturiol sydd ymysg disgyblion ysgolion Cymru. Ar gyfer y prosiect yma, daeth disgyblion 6ed dosbarth ynghyd o ysgolion Glantâf, Llanhari, Maes y Gwendraeth, Maes Garmon a Morgan Llwyd i gymryd rhan ym mhrosiect #meddwlarwaith i gwmni Grain Media a BBC Bitesize.

O addysg academaidd i addysg iechyd. Yn gweithio i Cracking Productions, bum yn castio ac yn cynhyrchu cyfres o ffilmiau hyfforddi CPR i Sefydliad y Galon. Y cyflwynwyr aml ddawn, Miriam Isaac ac Alun Williams oedd wrth y llyw.