Cyfres 2 o Oli Wyn

Hyd 24, 2018

Ry’ ni’n falch iawn o fod wedi derbyn ail gomisiwn o’r gyfres feithrin am gerbydau, ‘Oli Wyn’.

Mae’r ffilmio wedi cychwyn eisoes a bydd yn parhau tan fis Tachwedd. Trên Bach yr Wyddfa, Tramffordd y Gogarth a thancer laeth Hufenfa De Arfon oedd y rhaglenni cyntaf i ni eu ffilmio.

Diolch i storm Helene, doedd y tywydd ddim yn wych, ond roedd y croeso gan bawb yn gynnes iawn!