Noswyl Nadolig

Rhag 11, 2018

Am 09:45 ar noswyl y Nadolig, bydd pennod arbennig o Oli Wyn yn cael ei darlledu ar Cyw.

Yn y bennod hon, bydd Oli Wyn a rhai o ddisgyblion blwyddyn 1 a 2 Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd yn cymryd golwg agosach ar sut aeth Cyngor Caerdydd ati i addurno canol y ddinas.

Roedd hi’n bleser ffilmio gyda’n criw ifanc ni ac fe ganon nhw’n wych o flaen y Castell – er ei bod hi’n oer iawn!