Castio a Lleisio

Pan mae’r haul yn gwenu, ble gwell i fynd na’r….bwth lleisio!

Fis yma, ry’n ni wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda chleientiaid cyfarwydd â rhai newydd.

Unwaith eto, Roedd hi’n bleser gweithio gyda Ho Ho Entertainment yn castio ac yn cyfarwyddo llais ar gyfer ffilm fer i hyrwyddo eu cyfres newydd, Toddler Time.

Mae Ho Ho wedi partneru gyda chrëwr y gyfres, Gail Penston, i ddatblygu ei chyfres llyfrau llwyddiannus mewn i gyfres animeiddiedig. Bydd y ffilm yn cael ei hanimeiddio gan gwmni Bumpy Box, a bydd yn barod mewn pryd i’w wylio yn y Gwŷl Cyfryngau Plant, y CMC yn Sheffield fis Gorffennaf.

Roedd hi’n bleser gweithio gyda chwmni sy’n newydd i ni, Pukka Films, ar ddwy ffilm ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron. Twt oedd yn gyfrifol am addasu’r sgriptiau o Saesneg i Gymraeg, castio a chyfarwyddo’r lleisio. Diolch i ‘lais’ y ffilmiau, Mali Harris am ei gwaith lleisio celfydd.

Castio a Chynhyrchu

Cyfnod o gastio a chynhyrchu buodd hi’r Gwanwyn yma gan ddechrau gyda chastio chwe disgybl ysgol i gymryd rhan mewn cyfres o ffilmiau yn cynnig syniadau ar dechnegau adolygu TGAU.

Unwaith eto, mae’n fy rhyfeddu cymaint o dalent naturiol sydd ymysg disgyblion ysgolion Cymru. Ar gyfer y prosiect yma, daeth disgyblion 6ed dosbarth ynghyd o ysgolion Glantâf, Llanhari, Maes y Gwendraeth, Maes Garmon a Morgan Llwyd i gymryd rhan ym mhrosiect #meddwlarwaith i gwmni Grain Media a BBC Bitesize. 

O addysg academaidd i addysg iechyd. Yn gweithio i Cracking Productions, bum yn castio ac yn cynhyrchu cyfres o ffilmiau hyfforddi CPR i Sefydliad y Galon. Y cyflwynwyr aml ddawn, Miriam Isaac ac Alun Williams oedd wrth y llyw.