Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Ho Ho Rights i ddod â Crawc a’i Ffrindiau, i wylwyr Cyw.
Wedi ei seilio ar lyfrau’r Albanwr Kenneth Grahame,
The Wind in the Willows, mae’r gyfres newydd hon yn addasiad o’r gyfres Toad and Friends.
Ni’n edrych ymlaen yn arw at fynd nôl mewn i’r stiwdio i recordio gyda thalent lleisio gwych o Gymru , gan obeithio na fydd lleisau neb yn crawcian yn ormodol!

 

Cydlynydd cynhyrchiad / ymchwilydd

Mae Cynyrchiadau Twt yn chwilio am gydlynydd / ymchwilydd i weithio ar gyfres 2 o ‘Caru Canu a Stori’ ar gyfer Cyw / S4C.

Bydd tua 15 diwrnod o waith dros gyfnod o 5 wythnos o ganol Mehefin at ganol mis Gorffennaf.

Byddi’n gweithio o adre ond bydd gofyn i ti fod ar gael ar gyfer 5 niwrnod o ffilmio mewn stiwdio yn y Barri, Bro Morgannwg.

Y prif ddyletswyddau fydd paratoi sgriptiau ar gyfer mynd i’r stiwdio, trefnu propiau, logio siots ar leoliad a pharatoi ffurflenni metadata.

Bydd gwaith achlysurol arall hefyd.

Os oes gen ti brofiad yn y maes a diddordeb yn y gwaith, anfona dy CV at info@twtproductions.cymru

Mae rhai o benodau cyfres 1 ar gael i’w gwylio yma:

https://www.s4c.cymru/clic/programme/809182132

 

Diawl o Ddêt

Pwy sy’n cofio’r straeon caru mewn cylchgronau fel Jackie a Mizz? Wel, dyna sail 3 sgets gomedi am y sîn ddêtio gan Aled Richard ac Esyllt Sears. Wedi ei greu mewn steil photo story,  bydd Diawl o Ddêt yn ymddangos fel rhan o wasanaeth comedi newydd S4C fydd ar gael i’w wylio ar draws platfformau digidol y sianel dros yr haf.