Mystery Soup!

Gorff 19, 2017

18 mis wedi i CBBC a BBCWW lansio cystadleuaeth arloesol Anim8 i ddod o hyd i gyfres gomedi newydd sbon ar gyfer CBBC a’r farchnad ryngwladol, mae Mystery Soup yn barod ar gyfer pitsio. Siwan oedd Rheolwr Prosiect y fenter, ble gwelwyd yn agos i 300 o syniadau’n cael eu cynnig. Ar ôl cyfnod o asesu ac yna datblygu 12 prosiect, penderfynwyd ar gyfres gomedi wedi ei lleoli mewn ysgol sydd wedi ei adeiladu ar rifft. Cwmni newydd sbon o’r enw Hanifold Ltd sy’ tu ôl i’r syniad. Wedi cyfnod o ddatblyglu pellach, gyda Siwan yn cynhyrchu a Jam media yn Melfast yn animeddio, mae promo, dwy sgript a beibl wedi eu cwblhau.