Proffil

Sefydlwyd Cynyrchiadau Twt gan Siwan Jobbins. Dechreuodd Siwan ei gyrfa ym myd adloniant ysgafn a rhaglenni plant, a chafodd un o’i chynyrchiadau cyntaf, CiC ei enwebu ar gyfer BAFTA Plant.

Ymunodd ag S4C fel Comisiynydd Rhaglenni Plant, lle bu’n Uwch Gynhyrchydd ar nifer o gyfresi rhyngwladol, gan gynnwys Holi Hana a’r clasur, Sam Tân.

Parhaodd Siwan ei gyrfa fel Uwch Gynhyrchydd gyda stiwdio Dinamo, a brocera’r cydgynhyrchiad cyntaf rhwng S4C, RTÉ a CBeebies, sef Abadas – cyfres feithrin a ddyfeisiwyd ac a gynhyrchwyd ganddi.
Mae Siwan wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer cyfresi animeiddio rhyngwladol. Mae ei gwaith i’w weld ar sianelau megis Disney, KiKA, Cartoon Network, Milkshake!, RTÉj a PBS America.

Yn ogystal â phrosiectau Cynyrchiadau Twt, mae Siwan yn gweithio fel Cynhyrchydd ac Uwch Gynhyrchydd i gwmnïau megis Boom Plant, Yeti, Yellow Barrells a Telesgôp ac i ddarlledwyr gan gynnwys BBC Cymru, BBC Studios a CBBC.

Siwan yw Cadeirydd yr elusen Ymddiried: Media Grants Cymru.