Ein Blog

Dydd Sul Dwbl!
Roedd hi’n ddydd Sul dwbl i Gynyrchiadau Twt ddoe (14/12/25) wrth i ddwy ffilm Nadolig yr oeddem yn rhan ohonynt gael eu dangos am y tro cyntaf:
Cafodd ‘Nolig’, stori CGI hyfryd am geirw anferth yn ceisio dod o hyd i’w deulu ei darlledu am y tro cyntaf, ac ar yr un pryd ar TG4 ac S4C, a chafodd ‘The Ghost of Midwinter’ ei dangos am y tro cyntaf yn Saesneg yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd.
Mae ffilm fer animeiddiedig llawn tensiwn Cloth Cat wedi’i lleoli yng Nghymru ganoloesol ac yn adrodd stori arswydus merch fach ddewr sy’n benderfynol o achub ei thad yn erbyn pob disgwyl.
Pan fydd Nia’n mynd ar goll yn y goedwig yng nghanol storm eira, nid oes ganddi ddewis ond gwneud bargen angheuol gydag ysbryd. Mae Ysbryd yr Oerfel yn ei hachub, ond am gost y tu hwnt i ddealltwriaeth. Rhaid i Nia deithio’n ddwfn i galon coedwig dywyll y gaeaf tragwyddol i wynebu’r creadur drwg ac achub ei thad.
Bydd ‘Ysbryd yr Oerfel’ yn cael ei darlledu ar S4C am 17:35 ar Ddiwrnod Dolig
Mae pwt o ‘The Ghost of Midwinter’ / ‘Ysbryd yr Oerfel’ ar gael i’w gwylio yn Gymraeg a Saesneg ar YouTube! Dilynwch y linc a dewis trac Cymraeg yn ‘settings’.

Nolig
Mae wedi bod yn ychydig fisoedd prysur yn addasu sgriptiau, castio ac yn cyfarwyddo llais. Y cyntaf o’r prosiectau hynny i gael eu cyfleu i ddarlledwyr yw ‘Nolig’ gan Taunt Studios.
Bydd y cyd-gomisiwn nodedig hon gan BBC Gogledd Iwerddon, TG4 ac S4C yn cyrraedd y sgriniau mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Mae’r ffilm Nadolig hudlous hon yn dilyn anturiaethau carw anferth o’r enw Nolig a’i chwaer ddynol, Siân i’r ‘gogledd’ yn dilyn darganfyddiad damweiniol gan Nolig mai ef o bosibl yw’r unig Mawralocerws Anferthws (cawr-garw diflanedig) sy’n bodoli!
Ein rôl ni yn yr antur fach hyfryd hon oedd addasu’r sgript, castio a chyfarwyddo llais y fersiwn Gymraeg o’r ffilm animeiddiedig ciwt yma.
Bydd y darllediad cyntaf ar 14/12/25.
https://www.bbc.co.uk/mediacentre/2025/nollai-characters-cast-list

Cymru Greadigol
Tymor newydd, caneuon newydd!
Gyda diolch i Cymru Greadigol / Creative Wales, mae 5 o ganeuon newydd sbon Bochau’r Bochdew – seren cyfres blant S4C, ‘Annibenodod’ bellach ar gael ar Youtube.
Wedi eu hysgrifennu gyda dysgwyr Cymraeg mewn golwg, mae’r caneuon yma’n addas i ddysgwyr o bob oedran.
Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Cloth Cat, Gareth Elis, Dyfan Jones, Paul Owen, Cranc Audio and Boom Plant unwaith yn rhagor.
Diolch yn fawr Cymru Greadigol
Mwynhewch!

Castio a chyfarwyddo llais i JM Creative
Roedd hi’n hyfryd gweithio unwaith eto gyda John Morgan yn JM Creative yn castio ac yn cyfarwyddo llais ar gyfer 2 ffilm i Lywodraeth Cymru ar Ysgolion Bro.
Brîff Twt oedd castio bachgen ifanc, dwyieithog i leisio’r ddwy ffilm
Castiwyd Rhys Evans a lwyddodd i daro’r cywair perffaith ar gyfer y prosiect – cynnes, clir a didwyll.
Diolch Rhys

Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Mae Cynyrchiadau Twt yn ffan mawr o animeiddio. Mae’r rhan fwya’ o’n comisiynau un ai’n animeiddio pur neu’n waith aml-gyfrwng ac mae’r rhan helaeth o’n gwaith castio a chyfarwyddo llais ar gyfer prosiectau animeiddiedig. O ganlyniad, ry’n ni’n hapus iawn i roi yn ôl i’r diwydiant ble’n bosib ac o ganlyniad yn noddwr cyson o Ŵyl Animeiddio Caerdydd.
https://www.cardiffanimation.com/
Ac ‘doedd yr ŵyl ‘Penwythnos’ y penwythnos d’wetha’n ddim gwahanol. Mae tîm yr ŵyl yn fach ac yn frwdfrydig ac yn gwneud gwaith gwych o ddenu animeiddio safonol a hynodd ddifyr i Gaerdydd. Maen nhw hefyd yn chynnig sesiynau Cwestiwn ac Ateb, cyfleoedd gwirfoddoli i’r rhai hynny sydd eisiau gweithio yn y diwydiant a chynnig cyfleoedd rhwydweithio i bawb.
Diolch CAF!
Ŵhŵ – ymunwch gyda’r Ŵhŵs ar Cyw!
Bydd y gyfres hyfryd hon gan Snipple Animation Studios yn dechrau darlledu ar S4C o Ebrill 22.
Ymunwch â phedwar ffrind: Gelert y ci; Eli’r ysgyfarnog; Wini’r pâl a Tomi tarw ar eu hanturiaethau ar Ynys Ddoeth. Ŵhŵ!
Mae’r pedwar bywiog, hwyliog a chwilfrydig yma wrth eu bodd yn ymchwilio’r byd o’u cwmpas, yn darganfod ffeithiau difyr ac yn dysgu am fyd natur, fel sut mae dŵr yn rhewi pan mae’n oer a bod ‘na sêr yn byw ar y ddaear – sêr môr!
A sôn am sêr…y sêr ifanc sy’n lleisio’r gyfres Gymraeg i Cynyrchiadau Twt yw Osian Rhys Jones, Marged Llwyd, Meri Huws Gwynedd a Cian Glyn.
Mae gwaith lleisio ar gyfres fel hon yn dipyn o sialens ac mae’r pedwar actor ifanc yma wedi bod yn wych wrth eu gwaith. Diolch o galon i chi.

Canu a Dawnsio gyda Bochau
Mae pob pennod o’r cyfres gomedi Annibendod yn cloi gyda chân gan Bochau, bochdew anwes Anni. Nid creadur swil a thawel mohono, o na! Mae Bochau’n llawn hwyl, drygioni ac wrth ei fodd yn bwyta sbrowts, canu a dawnsio. Felly mae cael cyfle i ddangos ei ddawn am berfformio ym mhob pennod yn fêl ar ei bawennau!
Wedi eu hysbrydoli gan ddigwyddiadau o’r rhaglenni, mae’r caneuon hwyliog yn cyflwyno geirfa bwrpasol yn ôl thema/themâu pob pennod, ynghyd â phatrymau iaith defnyddiol y gellid eu defnyddio bob dydd.
Weithion ni gyda’r Mudiad Meithrin i sicrhau geirfa sy’n addas i siaradwyr Cymraeg ifanc ac i’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
A’r newyddion da yw…mae’r caneuon nawr ar gael ar YouTube, Spotify a phlatfformau ffrydio cerddoriaeth eraill
Fydd y caneuon syml a difyr yma’n siŵr o godi gwên! 😊
Annibendod
Annibendod, o’r diwedd!
Weithiau mae’n talu ffordd i fod yn ddygn…ar ôl 5 mlynedd o ddatblygu, wedi’ arafu oherwydd Covid 19, mae’n cyfres drama-gomedi cyfrwng cymysg yn cyrraedd y sgrin o’r diwedd.
Anturiaethau anniben merch anarchaidd, fywiog, llawn hwyl o’r enw Anni (yr hynod wych Agnes Evans) yw ‘Annibendod’. Yn gwmni yn ei direidi mae sawl ffrind a’i bochdew animeiddiedig Bochau, sy’n caru tipyn o firi yn ogystal â chân a dawns!
Mae’r comisiwn yn 20 pennod, 10 munud o hyd gyda chân wedi’i hanimeiddio ym mhob pennod.
Gan fod hwn yn dasg mor fawr, fe benderfynon ni is-gontractio cwmni Boom Plant i ofalu am rai agweddau o’r prosiect ac wedi bod yn ffodus i weithio gyda’u Rheolwr Cynhyrchiad Marian Eluned, y cyfarwyddwr Nathan Ifans a sawl aelod o’u criw ffilmio.
Wedi’i hanimeiddio gan Cloth Cat a gyda chaneuon gwych gan y Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones, dan arweiniad tîm Mudiad Meithrin i sicrhau addasrwydd ar gyfer plant ifanc sy’n dysgu Cymraeg, gobeithiwn y caiff y gwylwyr gymaint o hwyl yn ei wylio ag a gawsom yn ei wneud.


Cyfleoedd Castio
Yn gweithio i Mosaic Films ar gyfer BBC Bitesize, ry’n ni’n chwilio ar dalent ifanc sy’n siarad Cymraeg!
Ry’n ni’n chwilio am gyflwynydd ar gyfer cyfres o ffilmiau byrion ar ramadeg Cymraeg ar gyfer BBC Bitesize. Bydd y fideos yn egluro pwyntiau gramadeg Cymraeg yn Saesneg yn gryno ar gyfer cynulleidfa o blant 11 – 14 oed. Bydd y ffilmio yn digwydd mewn stiwdio, gyda sgrin werdd, a bydd y cynnwys terfynol yn cael ei ddangos ar-lein mewn fformat digidol ffurf fer. Byddwn yn ffilmio ganol mis Ionawr am un diwrnod mewn stiwdio yng Nghaerdydd neu’r cyffuniau.
CYFLWYNYDD
Gofynion:
- Rhwng 18 a 23 oed
- Cymraeg a Saesneg rhugl
- Steil wybodus, hyderus, clir a chynnes wrth gyflwyno
- Ffafrir profiad blaenorol ar gamera neu gefndir mewn addysg/cyflwyno
I’w ddanfon atom:
- Fideo byr (1 munud 30 eiliad) yn cyflwyno’ch hun, gan gynnwys pytiau mewn Cymraeg a Saesneg
Dyddiadau Allweddol:
- Cyflwyniadau i’n cyrraedd erbyn: 6/12/24
- Cyfnod Ffilmio: canol Ionawr 2025
CYFRANWYR
Rydym hefyd yn chwilio am gyfranwyr / actorion ifanc ar gyfer cyfres o ffilmiau i gyd-fynd gyda’r fideos gramadeg. Bydd y fideos yma’n dilyn ffurf ddogfennol ac yn defnyddio sgyrsiau i arddangos pwyntiau gramadeg. Bydd y fideos yn trafod bywydau bob dydd, hobïau a barn y cyfranwyr. Bydd y cynnwys terfynol yn cael ei ddangos ar-lein mewn fformat digidol ffurf fer. Byddwn yn ffilmio yng Nghaerdydd a’r cyffiniau o ganol Ionawr tan ganol Chwefror.
Gofynion:
- Rhwng 18 a 23 oed
- Cymraeg rhugl
- Yn gynnes, yn hyderus, naws sgwrsiol sydd â’r gallu i ymgysylltu â dysgwyr.
- Rhaid bod yn gyfforddus yn dilyn sgript a siarad ar gamera
- Yn gyfforddus yn rhannu gwybodaeth bersonol sylfaenol ar y sgrin (trafod hobïau neu hoff gerddoriaeth, er enghraifft)
I’w ddanfon atom:
- Fideo fer (1 munud 30 eiliad) yn cyflwyno eich hun
- Perfformiad o sgript 1 munud o hyd. Cysylltwch â Siwan i dderbyn copi.
- Mewn e-bost, rhowch fanylion hobïau, profiadau, neu leoliadau sy’n gysylltiedig â’ch bywyd bob dydd a allai lywio’ch stori yn y gyfres
Dyddiadau Allweddol:
- Cyflwyniadau i’n cyrraedd erbyn: 6/12/24
- Cyfnod Ffilmio: canol Ionawr 2025 i ganol Chwefror
Os oes gennych gwestiynau pellach ac i holi am sgript, cysylltwch â Siwan: siwan@twtproductions.cymru
Dyma’r cyfeiriad hefyd ar gyfer danfon eich fideos

Cynhyrchiad mwy Gwyrdd
Ry’ ni ‘gyd yn edrych am ffyrdd o fod yn fwy gwyrdd a chynaliadwy ar gynyrchiadau’r dyddiau hyn. Mae gwefan Albert yn le da i godi syniadau. https://wearealbert.org/
Ffordd amlwg a syml o fod y fwy gwyrdd yw ystyried sut mae criwiau’n teithio i’r gwaith. Oes modd rhannu lifftiau, er enghraifft neu gerdded? Ffordd arall yw edrych ar y defnydd ni’n ei wneud o wisgoedd a phropiau.
Ar gyfer ein cynhyrchiad diweddaraf ni, Annibendod, ry’ ni’n cydweithio gyda Boom Plant. Yn ogystal âr faith bod gan y cwmni dîm cefnogi cynyrchiadau a chriw ffilmio gwych, un o’r manteision i ni o weithio gyda Boom yw’r gallu i ni dwrio drwy eu storfa bropiau enfawr a defnyddio’r hyn ry’n ni ei eisiau. Mae’r lle fel Ogof Aladin (ond heb y genie)!
Eisiau lamp? Mae 20 ohonynt. Eisiau wellingtons? Pa faint yw’r unig gwestiwn! Eisiau llestri cegin? Pa liw sy’ gyda chi mewn golwg?!
Mae’r storfa yma wedi’n galluogi ni i gadw golwg gofalus ar wariant ein cyllideb a hefyd ymddwyn yn fwy amgylcheddol drwy beidio gor- brynu. Wrth gwrs, weithiau mae’n rhaid prynu ond mae’r pethau hynny’n mynd yn ôl i’r storfa wedi i ni orffen ffilmio, yn barod am ail gyfres neu gyfres cwbl wahanol. Mae pawb er eu hennill!