CYNYRCHIADAU TWT
Twt – dim lol
Mae Cynyrchiadau Twt yn arbenigo mewn creu cynnwys i blant a phobl ifanc ym meysydd adloniant ac addysg.
Mae Cynyrchiadau Twt yn cynnig gwasanaeth unigryw. Yn ogystal â chreu ein cynnwys ein hunain, rydym yn hapus i helpu gydag unrhyw agwedd o’ch cynnwys chi, o’r syniad gwreiddiol i’r cynnyrch terfynol.
Rydym yn gwmni twt a hyblyg, sy’n tyfu yn ôl y galw ar bob prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig help i chi ar brosiectau mawr neu fach.
Rydym yn:
Datblygu Syniadau
Yn ogystal â datblygu syniadau Twt, rydym hefyd yn gweithio gyda chwmnïau eraill i ddatblygu eu cynnwys nhw. Yna, os oes angen, rydym yn hapus i gefnogi’r prosiect trwy gydol y cynhyrchiad.
Creu Cynnwys Aml-blatfform
Mae Twt yn datblygu ac yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer darlledu a phlatfformau digidol, ac yn aml yn cydweithio gyda chwmnïau eraill.
Ysgrifennu ac Addasu Sgriptiau
Yn ogystal ag ysgrifennu sgriptiau gwreiddiol ar gyfer cynnwys addysgiadol a phlant, rydym yn addasu sgriptiau o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys sgriptiau animeiddio post lip-sync a chynnwys i gleientiaid corfforaethol a rhai yn y 3ydd sector.
Castio actorion a Thalent Lleisio
Rydym yn castio plant ac oedolion ar gyfer cynyrchiadau ‘byw’ ac animeiddiedig yn ogystal â throsleisio mwy cyffredin. Mae tua 50% o’r gwaith castio hynny yn golygu castio plant ac oedolion ifanc.
Cyfarwyddo Llais
Mae nifer o’n prosiectau castio ni’n arwain at gyfarwyddo llais. Rydym yn gyfarwydd iawn gyda gweithio gyda thalent ifanc a dibrofiad yn ogystal ag artisitaid profiadol i wireddu dyheadau’r cleient.
Trefnu Trwyddedau Perfformio
Rydym yn gyfarwydd â threfnu trwyddedau perfformio ac yn hyderus yn cynghori eraill ar y broses.