Mae’n hâf o liw gyda’r Blociau Lliw

Awst 21, 2023

Mae’n haf o liw yma yn swyddfa Cynyrchiadau Twt!

Rydym newydd ddechrau ar fersiwn Gymraeg o sioe hynod boblogaidd CBeebies, Colour Blocks. Bydd Blociau Lliw’n dechrau darlledu fis Hydref felly ry’n ni wrthi fel lladd nadroedd yn paratoi ar gyfer llu o sesiynau canu a recordio. Bydd ‘na ganu yn y cymoedd cyn diwedd mis Awst wrth i ni deithio i stiwdio Dyfan Jones yn Aberdâr i ddechrau recordio’r caneuon cyn symud yn reit handi at Cranc yng Nghaerdydd i recordio’r lleisiau.

Bydd Blociau Lliw yn dechrau darlledu ar Cyw fis Hydref.