Tweedy & Fluff = Brethyn & Fflwff!

Ion 30, 2024

Bydd cyfres hynod annwyl a chwtshlyd Second Home Studios, Tweedy & Fluff yn cychwyn fis nesa’ ar Cyw. Mae Cynyrchiadau Twt yn falch iawn i fod wedi cael y cyfle greu’r fersiwn Gymraeg, Brethyn & Fflwff. Wedi ei haddasu’n wych gan Casia Wiliam, sy’n gyn Bardd Plant Cymru a’i lleisio gan yr amryddawn Tara Bethan, mae cynulleidfa Cyw am gael eu sbwylio!