Ry’ ni’n castio!

Chwef 19, 2024

Cyfres am hynt a helynt doniol merch ifanc hynod anniben yw Annibendod. Anni yw’r prif gymeriad ac mae ganddi griw o ffrindiau. Byddwn yn castio ar gyfer Anni a’i ffrindiau.

Mae gan Anni fochdew animeiddiedig hefyd o’r enw Bochau .

Mae hon yn gyfres gomedi gyda’r pwyslais ar gomedi gweledol. Bydd oedolion yn cyd-actio gyda’r plant.

Byddwn yn dechrau ffilmio’r gyfres ar Fai’r 29ain, sef wythnos gwyliau’r Sulgwyn – wythnos Eisteddfod yr Urdd. Ni fydd y dyddiadau yma’n newid felly ystyriwch yn galed cyn ymgeisio os ydy’ch plentyn yn bwriadu cymeryd rhan yr yr Eisteddfod neu eich bod wedi trefnu gwyliau.