Bwydydd Blasus

Ebr 12, 2024

Pum mlynedd ar ôl gweithio ar yr addasiad Cymraeg o Shane the Chef, roeddem yn falch iawn o gael cais i ymgynghori ar gyfres o gynnwys ffurf fer ar gyfer sianel YouTube Shane the Chef.

https://www.youtube.com/@ShanetheChef

Mae’r sianel yn llawn dop o ryseitiau a chlipiau o fwydydd blasus y gyfres.

Ar gyfer y ffilmiau ‘byw’, hwyl, bwydydd anarferol a thasgau oedd trefn y dydd. Cafwyd diwrnod gwych yn ffilmio gyda phedwar seren ifanc yn Qu studios ym Mryste. Bydd rhagor o gynnwys yn cael ei ychwanegu i’r sianel yn wythnosol. https://www.youtube.com/shorts/XY8-Mhf9nW0