Annibendod, o’r diwedd!

Ion 1, 2025

Weithiau mae’n talu ffordd i fod yn ddygn…ar ôl 5 mlynedd o ddatblygu, wedi’ arafu oherwydd Covid 19, mae’n cyfres drama-gomedi cyfrwng cymysg yn cyrraedd y sgrin o’r diwedd.

Anturiaethau anniben merch anarchaidd, fywiog, llawn hwyl o’r enw Anni (yr hynod wych Agnes Evans) yw ‘Annibendod’. Yn gwmni yn ei direidi mae sawl ffrind a’i bochdew animeiddiedig Bochau, sy’n caru tipyn o firi yn ogystal â chân a dawns!

Mae’r comisiwn yn 20 pennod, 10 munud o hyd gyda chân wedi’i hanimeiddio ym mhob pennod.

Gan fod hwn yn dasg mor fawr, fe benderfynon ni is-gontractio cwmni Boom Plant i ofalu am rai agweddau o’r prosiect ac wedi bod yn ffodus i weithio gyda’u Rheolwr Cynhyrchiad Marian Eluned, y cyfarwyddwr Nathan Ifans a sawl aelod o’u criw ffilmio.

Wedi’i hanimeiddio gan Cloth Cat a gyda chaneuon gwych gan y Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones, dan arweiniad tîm Mudiad Meithrin i sicrhau addasrwydd ar gyfer plant ifanc sy’n dysgu Cymraeg, gobeithiwn y caiff y gwylwyr gymaint o hwyl yn ei wylio ag a gawsom yn ei wneud.