Canu a Dawnsio gyda Bochau

Maw 25, 2025

Mae pob pennod o’r cyfres gomedi Annibendod yn cloi gyda chân gan Bochau, bochdew anwes Anni. Nid creadur swil a thawel mohono, o na!  Mae Bochau’n llawn hwyl, drygioni ac wrth ei fodd yn bwyta sbrowts, canu a dawnsio. Felly mae cael cyfle i ddangos ei ddawn am berfformio ym mhob pennod yn fêl ar ei bawennau!

Wedi eu hysbrydoli gan ddigwyddiadau o’r rhaglenni, mae’r caneuon hwyliog yn cyflwyno geirfa bwrpasol yn ôl thema/themâu pob pennod, ynghyd â phatrymau iaith defnyddiol y gellid eu defnyddio bob dydd.

Weithion ni gyda’r Mudiad Meithrin i sicrhau geirfa sy’n addas i siaradwyr Cymraeg ifanc ac i’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

A’r newyddion da yw…mae’r caneuon nawr ar gael ar YouTube, Spotify a phlatfformau ffrydio cerddoriaeth eraill

Fydd y caneuon syml a difyr yma’n siŵr o godi gwên! 😊

Annibendod