Etholiad y Senedd

Ebr 23, 2026

Mae Etholiad y Senedd ar y gorwel ac mae’n bwnc llosg yma yng Nghymru. Roedd Cynyrchiadau Twt felly roedd Twt Productions yn falch iawn felly o weithio ochr yn ochr â Bomper Films i gynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion, yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar gyfer Nia Davies yn BBC Bitesize, sy’n cynnig cipolwg ar bynciau fel:

Beth mae’r Senedd yn ei wneud;

Pwerau Llywodraeth Cymru (a na, nid oes ganddi bwerau dros fewnfudo, beth bynnag mae rhai pleidiau’n hoffi ei ddweud);

Beth mae AS yn ei wneud;

Cipolwg ar sut y bydd y system bleidleisio newydd yn gweithio…a llawer mwy.

Diolch o galon i’n cyflwynwyr gwych, Mared Parry a Sage Todz am wneud D’Hondt yn hawdd ei ddeall(!), i Mia Morgan a Geraint Rhys Edwards am eu gwaith lleisio, i Cracking Productions am ffilmio a golygu ac i Bethan yn Cranc Audio.

Mae’r ffilmiau ar gael i’w gwylio ar wefan BBC Bitesize ac hwnt ac yma ar draws platfformau BBC Wales a BBC Cymru

https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/zdntjfr