Merched Mawreddog

Ion 9, 2019

Wythnos yma (Ionawr 7fed), mae BBC Cymru’n dathlu pump o Ferched Mawreddog Cymru ac yn trafod yr effaith gafodd pob un ar y Gymru fodern. Ynghyd â’r ffilmiau creodd Parasol Films ar gyfer y brif amserlen, roedd y BBC yn awyddus i greu cynnwys i blant. Gweithiom ni gyda thîm BBC Cymru i greu ffilmiau archif byrion wedi eu cynhyrchu’n arbennig ar gyfer plant cynradd, cyfnod allweddol 2. Mae’r ffilmiau yma’n rhoi’r menywod arbennig yma yng nghyd – destun hanes Cymru rhwng diwedd y 19eg a’r presennol.