Blociau Lliw ar S4C

Hyd 17, 2023

Bydd Blociau Lliw, cyfres liwgar a deniadol Aardman Animation yn dechrau darlledu ar Cyw am 7 y bore o Hydref 2023.

Yn ogystal â dysgu am liwiau, mae’r gyfres yn llawn caneuon tu hwnt o hyfryd. Roedd hi’n bleser felly gennym weithio gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones i recordio’r rhain. Mae canu ym mer esgyrn yr actorion gwych a gastiwyd: Mared Williams, Gareth Elis, Gwawr Loader, Clare Hingott, Lily Beau ac actor newydd i’r diwydiant, Aled Gomer. Roedd hi’n bleser gweithio gyda chriw mor dalentog.

Ar gyfer y gyfres hon, ymunodd yr actor a’r cyfarwyddwr Geraint Morgan gyda’r tîm, gan gamu o ochr arall y meicroffon i gyfarwyddo llais ar y gyfres.

Addaswyd y sgriptiau yn wych gan Dafydd Emyr a Caryl Parry Jones.

Recordiwyd a chymysgwyd y rhaglenni yn Cranc Audio a’r golygydd oedd Dewi Evans.