Mae Star Wars yn un o’r ffilmiau yna mae pawb yn gwybod amdani a miliynau yn ei charu, felly roedd hi’n anrhydedd cael gwahoddiad i weithio gyda S4C, Cymru Greadigol a Lucas Film ar y dyb Cymraeg cyntaf o’r ffilm Star Wars Gobaith Newydd (New Hope). Bydd darllediad cynta’r ffilm – ac hynny’n llawn cynnwrf – ar S4C ar ddiwrnod ‘Dolig. Gyda thîm talentog ar – ac oddi ar – y mic, hon fydd yr anrheg Nadolig nad oeddet yn ei disgwyl ond y byddi’n caru am byth!
STAR WARS: GOBAITH NEWYDD (English version below) S4C a Cymru Greadigol yn cyhoeddi fersiwn Gymraeg o Star Wars: Gobaith Newydd mewn partneriaeth â Lucasfilm a Disney. Heddiw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd bod y ffilm ffantasi gofod eiconig o 1977 Star Wars: A New Hope gan Lucasfilm a Disney yn mynd i gael ei dybio’n Gymraeg, mewn cydweithrediad ag S4C a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol. Bydd y ffilm, Star Wars: Gobaith Newydd, yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen. Daw’r newyddion cyn pen-blwydd y ffilm yn 50 oed yn 2027. —————————————————- —————————————————- S4C and Creative Wales announce Welsh language version of Star Wars: A New Hope in partnership with Lucasfilm and Disney Announced today at the National Eisteddfod, a Welsh language dub of the iconic 1977 space fantasy blockbuster Star Wars: A New Hope has been produced by Lucasfilm and Disney in collaboration with S4C and the Welsh Government via Creative Wales. The film, Star Wars: Gobaith Newydd, will broadcast on S4C and across its platforms from Christmas Day onwards. The news comes ahead of the film’s 50th anniversary in 2027. When using assets please credit: S4C; Cymru Greadigol; Lucasfilm #steddfod2026#starwars#welsh#cymraeg