Ein Blog

Gyrfa Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol

Gyrfa Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol

Yn ddiweddar, gweithiodd Cynyrchiadau Twt gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i greu PDF rhyngweithiol i gynnal 30 o ffilmiau yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r llu o gyfleoedd gwych sydd ar gael i bobl ifanc yn y celfyddydau gweledol.

Dewisodd y Cyngor Celfyddydau 15 o bobl greadigol i ffilmio eu hunain yn siarad am eu gwaith. Yr her i ni oedd gweithio gyda’r bobl dalentog yma ar eu cynnwys ac annog eu sgiliau ffilmio.

Cynhyrchwyd 2 PDF; un Gymraeg ac un Saesneg ac is- deitlwyd yr holl ffilmiau.

Dyluniwyd y PDF gan Gafyn Jones yn Mwstard a golygwyd y Ffilmiau gan Scott Phillips yn Next Level Production.

Cynhyrchodd Twt promo aml-blatfform i gyd-fynd â’r ymgyrch

https://twitter.com/Arts_Wales_/status/1330929449664204801
Cyfres newydd o Caru Canu ar Cyw

Cyfres newydd o Caru Canu ar Cyw

Ji Geffyl Bach; Mi Welais Long yn Hwylio; Pen, Ysgwyddau, Coesau Traed; Bili Broga…Os ydych chi a’ch plant yn mwynhau gwrando a gwylio hwiangerddi a chaneuon meithrin cyfoes a thraddodiadol, ry’ chi’n siŵr o fwynhau’r gyfres newydd o Caru Canu!

Wedi ei hanimeiddio’n hyfryd gan Picl Animation a Myfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd, mae cyfle i wylio’r gyfres bore Mercher ar Cyw neu unrhyw dro ar Clic a’r iplayer.

Mae 10 o ganeuon y gyfres bellach ar YouTube a rhagor i ddilyn fis nesa’.

Chons da, Kara Kana

Chons da, Kara Kana

Mae Tîm Cynyrchiadau Twt ar ben eu digon! Mae rhai o ganeuon meithrin a hwiangerddi’r gyfres boblogaidd, Caru Canu wedi eu prynu gan Skrin Kernow. Bydd modd felly i chi wrando ar rai o’ch hoff ganeuon Meithrin Cymraeg yn cael eu canu yng Nghernyweg cyn hir.

Diolch i Denzil Monk, o gwmni Bosena, bydd 5 cân o’r gyfres yn ymddangos ar Vimeo fel rhan o ddathliadau Wythnos Siarad Cernyweg, fydd yn digwydd rhwng Mehefin 20-28.

https://vimeo.com/showcase/tk

“Chons da” gyda’r wythnos!

Bwrw Glaw yn Sobor Iawn!

Bwrw Glaw yn Sobor Iawn!

Gyda thywydd drwg a neb awydd mynd allan i ffilmio, ry’ ni’n falch iawn mai castio a chyfarwyddo llais sydd wedi’n cadw ni’n brysur dros yr wythnosau diwethaf a hynny i JM Creative, Llywodraeth Cymru, Booktrust Cymru a BBC Addysg. Ry’ ni wedi darllen llyfrau hyfryd, dysgu am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac am lwyth o bethau TGAU – mae pob diwrnod yn gyfle i ddysgu…er ddim i bob aelod o dîm cynyrchiadau Twt!

Dal i Garu Canu!

Dal i Garu Canu!

Ni’n dal i Garu Canu!

Ry’ ni wrth ein boddau ac wedi cyffroi’n lan fod S4C wedi comisiynu rhagor o benodau o’r gyfres hwiangerddi poblogaidd Caru Canu. Mae’r tîm wrthi’n sgwennu sgriptiau, trefnu alawon ac animeiddio 20 pennod newydd sbon. Fydd y cyfan ar Cyw ddiwedd y flwyddyn….

Tan hynny, dyma flas ar ganeuon cyfres 1:

Ffilmiau Hyfforddi ar gyfer Booktrust Cymru

Braf oedd cael cyfle unwaith eto i weithio gyda Booktrust Cymru. Ry’ ni wrth ein boddau’n gweithio gyda nhw yn recordio llyfrau a rhigymau ar gyfer gwefan y Booktrust, ond tro ‘ma, fe fentrom ni o’r stiwdio recordio ac i’r ‘byd go iawn’ i ffilmio pytiau o gyngor ar gyfer ymwelwyr iechyd, a hynny’n Gymraeg ac yn Saesneg.

Caneuon Hyfryd Caru Canu nawr ar youtube

Cyfle i gyd-ganu caneuon hyfryd Caru Canu ar youtube!

Mae modd gwylio a chyd-ganu holl ganeuon y gyfres hyfryd hon ar youtube. Mae 10 cân ar lein yn awr a bydd 10 arall yn dilyn yn fuan.

Mwynhewch!

Caru Canu ar Cyw

Caru Canu ar Cyw

Bydd Caru Canu’n darlledu’n wythnosol o Awst 28ain.

Mae’r gyfres animeiddiedig hyfryd hon yn cynnig cyfle i wylio a chanu caneuon a hwiangerddi traddodiadol a chyfoes wrth ddysgu am anifeiliaid, ystumiau, cyfri a’r tywydd. Ac i’r rhai sydd angen ‘amser tawel’, mae ‘na hwiangerddi i’w helpu cysgu hefyd!

Mae Cynyrchiadau Twt wedi bod yn lwcus iawn i gael caniatâd i ddefnyddio tecstilau hyfryd Melin Tregwynt i roi gwedd wahanol iawn i’r gyfres.

Cwmni Hurst Animation oedd yn gyfrifol am gynllunio a storifyrddio’r gyfres a Gary Hurst oedd y cyfarwyddwr.

Rydym yn falch o fod wedi rhoi’r cyfle i fyfyrwyr Cwrs BA Animeiddio Prifysgol Met Caerdydd i weithio ar rai penodau dan ofal cwmni ifanc lleol, Picl animation. Benthycodd Tom Blumberg, Daniel Lloyd, Elain Llwyd, Miriam Isaac a Mabli Tudur eu lleisiau hyfryd a threfnwyd y caneuon gan yr aml ddawnus Dyfan Jones.

Diawl o Ddêt

Diawl o Ddêt

Pwy sy’n cofio’r straeon caru mewn cylchgronau fel Jackie a Mizz? Wel, dyna sail 3 sgets gomedi am y sîn ddêtio gan Aled Richard ac Esyllt Sears. Wedi ei greu mewn steil photo story, bydd Diawl o Ddêt yn ymddangos fel rhan o wasanaeth comedi newydd S4C fydd ar gael i’w wylio ar draws platfformau digidol y sianel dros yr haf.

Ry’n ni’n ‘Canu’, diolch i gomisiwn newydd sbon

Ry’n ni’n ‘Canu’, diolch i gomisiwn newydd sbon

Mae’n Wanwyn ac wrth i’r blodau flaguro a’r adar nythu mae Cynyrchiadau Twt hefyd yn brysur ar gomisiwn newydd sbon i S4C.

Cyfres o 20 o hwiangerddi wedi eu hanimeiddio yw ‘Canu’. Bydd y gyfres a’r Caneuon yn lansio ar Cyw ac youtube yn yr Hydref. Yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Mudiad Meithrin a Booktrust Cymru, bydd y gyfres yn gyfuniad o hwiangerddi traddodiadol a chyfoes.

Mae’n bleser gennym weithio gyda Picl Animation a myfyrwyr Prifysgol y Met yng Nghaerdydd.

Hurst Animation sy’n gyfrifol am storifyrddio a chyfarwyddo’r ffilmiau a Dyfan Jones yw’r cyfarwyddwr cerdd.

Mawr yw ein diolch hefyd i Felin Tregwynt ar roi caniatâd i ni ddefnyddio eu tecstilau eiconig ar gyfer ein cefndiroedd. Dyma enghraifft o’r gân, ‘Oes Gafr Eto?’