Ein Blog

Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Ho Ho Rights i ddod â Crawc a’i Ffrindiau, i wylwyr Cyw.
Wedi ei seilio ar lyfrau’r Albanwr Kenneth Grahame,
The Wind in the Willows, mae’r gyfres newydd hon yn addasiad o’r gyfres Toad and Friends.
Ni’n edrych ymlaen yn arw at fynd nôl mewn i’r stiwdio i recordio gyda thalent lleisio gwych o Gymru , gan obeithio na fydd lleisau neb yn crawcian yn ormodol!

Edrych yn wybodus mewn cotiau ‘lab’ gwyn!

Edrych yn wybodus mewn cotiau ‘lab’ gwyn!

Pleser cael gweithio unwaith eto gyda Cracking Productions ar gyfres o ffilmiau i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ffilmio’n digwydd yn yr ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd a Singleton yn Abertawe – ble gwell i ddysgu sut mae’r adran Ficrobioleg yn gweithio ac i gael edrych yn wybodus yn ein cotiau ‘lab’ gwyn!

Comisiwn newydd sydyn tu hwnt!

Comisiwn newydd sydyn tu hwnt!

Fyddwn ni ôl yn y stiwdio wythnos nesaf gyda Caru Canu a Stori cyfres 3.

Diolch yn fawr iawn i Sioned Geraint, Angharad Thomas a’r tîm Materion Busnes yn S4C am fynd ati fel lladd nadroedd i gomisiynu a chytundebu hwn mewn 2 fis.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at fynd ati i weithio gyda’r tîm gwych yn Picl Animation, Cracking Productions, Cranc Audio, a’r Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones a gwneud defnydd gwych o decstilau gwlân Cymreig bendigedig Melin Tregwynt. Diolch enfawr i’n hawduron Anna-Lisa Jenaer a Branwen Gwyn am ysgrifennu hynod gyflym ac wrth gwrs i’n ‘Cari’, Elin Davies.

Dathlu Wythnos Llyfrgelloedd gyda Booktrust Cymru

Dathlu Wythnos Llyfrgelloedd gyda Booktrust Cymru

Wyddoch chi mai Hydref 3-9 yw Wythnos Llyfrgelloedd? Fel mae’n digwydd, cawsom ni’r pleser o ddathlu llyfrgelloedd gwych Cymru drwy ffilmio Dafydd Lennon, cyflwynydd newydd Cyw yn darllen un o lyfrau cynllun ‘Pori Drwy Stori’ Booktrust Cymru, ‘Yr Arth a’i Llyfr Arbennig’ yn Hwb Ystum Taf, Caerdydd.

Lleoliad gwych, tîm cyfeillgar, coffi arbennig a darlleniad hyfryd – am ffordd wych i dreulio bore gwyntog, hydrefol.

Bydd y ffilm ar lein yn fuan.

Castio a Lleisio

Castio a Lleisio

Pan mae’r haul yn gwenu, ble gwell i fynd na’r….bwth lleisio!

Fis yma, ry’n ni wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda chleientiaid cyfarwydd â rhai newydd.

Unwaith eto, Roedd hi’n bleser gweithio gyda Ho Ho Entertainment yn castio ac yn cyfarwyddo llais ar gyfer ffilm fer i hyrwyddo eu cyfres newydd, Toddler Time.

Mae Ho Ho wedi partneru gyda chrëwr y gyfres, Gail Penston, i ddatblygu ei chyfres llyfrau llwyddiannus mewn i gyfres animeiddiedig. Bydd y ffilm yn cael ei hanimeiddio gan gwmni Bumpy Box, a bydd yn barod mewn pryd i’w wylio yn y Gwŷl Cyfryngau Plant, y CMC yn Sheffield fis Gorffennaf.

Roedd hi’n bleser gweithio gyda chwmni sy’n newydd i ni, Pukka Films, ar ddwy ffilm ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron. Twt oedd yn gyfrifol am addasu’r sgriptiau o Saesneg i Gymraeg, castio a chyfarwyddo’r lleisio. Diolch i ‘lais’ y ffilmiau, Mali Harris am ei gwaith lleisio celfydd.

Meddwl ar Waith i BBC Bitesize

Meddwl ar Waith i BBC Bitesize

Mae cyfnod y TGAU wedi’n cyrraedd unwaith yn rhagor ag at bwy gwell i droi am gyngor a chymorth na BBC Bitesize?

Roedd hi’n bleser unwaith eto, i gastio a chynhyrchu Meddwl ar Waith i BBC Bitesize, yn gweithio gyda The Connected Set i gyfleu 12 o ffilmiau deniadol, adlonianol, llawn gwybodaeth yngyd â 6 ffilm fer ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

bbc.co.uk/meddwlarwaith 

Mae’n wythnos FAWR!

Mae’n wythnos FAWR!

Ydy, mae hi’n wythnos fawr i blant bach a mawr, gyda Hanner Tymor yr Hydref a Chalan Gaeaf ar y gorwel. Mae hi’n wythnos fawr y gynhyrchiadau Twt hefyd, gyda dwy o’n cyfresi ni’n dechrau ar Cyw.

Bydd Caru Canu’n dechrau am 7 bore Mawrth hydref 26ain, gyda 12 o ganeuon meithrin traddodiadol a chyfoes.

Mae caneuon newydd sbon Caru Canu nawr ar Spotify

Gallwch chi wylio holl ganeuon y gyfres hon a’r rhai blaenorol – 52 cân – ar Youtube!

https://www.youtube.com/channel/UCf8is_1S-uoq6-WeFCTKJlQ

Bydd Cari nôl gyda chyfres 2 a Caru Canu a Stori am 7:20 bore Mercher y 27ain. Felly os yw eich plant chi’n dwlu ar glywed stori a’n caru canu chanu caneuon, Cyw yw’r lle i fod!

Arian Datblygu gan y BFI

Arian Datblygu gan y BFI

Am gyffrous! Mae Cynyrchiadau Twt wedi derbyn arian datblygu gan gronfa Young Audiences Content Fund y BFI, am brosiect gwreiddiol i blant ifanc o’r enw Ani Ben Dod / It’s a Messey Kinda World.

Fydd y gwaith datblygu’n dechrau o ddifri yn Awst 2021. Hwrê!

Mae’n wythnos FAWR!

Cydlynydd cynhyrchiad / ymchwilydd

Mae Cynyrchiadau Twt yn chwilio am gydlynydd / ymchwilydd i weithio ar gyfres 2 o ‘Caru Canu a Stori’ ar gyfer Cyw / S4C.

Bydd tua 15 diwrnod o waith dros gyfnod o 5 wythnos o ganol Mehefin at ganol mis Gorffennaf.

Byddi’n gweithio o adre ond bydd gofyn i ti fod ar gael ar gyfer 5 niwrnod o ffilmio mewn stiwdio yn y Barri, Bro Morgannwg.

Y prif ddyletswyddau fydd paratoi sgriptiau ar gyfer mynd i’r stiwdio, trefnu propiau, logio siots ar leoliad a pharatoi ffurflenni metadata.

Bydd gwaith achlysurol arall hefyd.

Os oes gen ti brofiad yn y maes a diddordeb yn y gwaith, anfona dy CV at

info@twtproductions.cymru

Mae rhai o benodau cyfres 1 ar gael i’w gwylio yma:

https://www.s4c.cymru/clic/programme/809182132

Dysgu Gartref

Yn dilyn cyfnod o weithio ar gynnwys Bitesize ar ddechrau’r pandemig yng ngwanwyn a haf 2020, roedd hi’n bleser cael gweithio unwaith eto ar gynnwys i helpu plant ddysgu gartre.

Tro ‘ma, cawsom y pleser o becynnu cynnwys ar gyfer gwasanaeth ‘Dysgu Gartref’ Bitesize, i’w darlledu ar S4C. Mae adnoddau Bitesize yn du hwnt o ddefnyddiol i blant o bob oedran ac roedd yn wych eu gweld ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg ar S4C ac iplayer y BBC.