Colour Blocks – Blociau Lliw ar S4C

Bydd Blociau Lliw, cyfres liwgar a deniadol Aardman Animation yn dechrau darlledu ar Cyw am 7 y bore o Hydref 2023.

Yn ogystal â dysgu am liwiau, mae’r gyfres yn llawn caneuon tu hwnt o hyfryd. Roedd hi’n bleser felly gennym weithio gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones i recordio’r rhain. Mae canu ym mer esgyrn yr actorion gwych a gastiwyd: Mared Williams, Gareth Elis, Gwawr Loader, Clare Hingott, Lily Beau ac actor newydd i’r diwydiant, Aled Gomer. Roedd hi’n bleser gweithio gyda chriw mor dalentog.

Ar gyfer y gyfres hon, ymunodd yr actor a’r cyfarwyddwr Geraint Morgan gyda’r tîm, gan gamu o ochr arall y meicroffon i gyfarwyddo llais ar  y gyfres.

Addaswyd y sgriptiau yn wych gan Dafydd Emyr a Caryl Parry Jones.

Recordiwyd a chymysgwyd y rhaglenni yn Cranc Audio a’r golygydd oedd Dewi Evans.

Mae’n hâf o liw gyda’r Blociau Lliw

Mae’n haf o liw yma yn swyddfa Cynyrchiadau Twt!

Rydym newydd ddechrau ar fersiwn Gymraeg o sioe hynod boblogaidd CBeebies, Colour Blocks.

Bydd Blociau Lliw’n dechrau darlledu fis Hydref felly ry’n ni wrthi fel lladd nadroedd yn paratoi ar gyfer llu o sesiynau canu a recordio. Bydd ‘na ganu yn y cymoedd cyn diwedd mis Awst wrth i ni deithio i stiwdio Dyfan Jones yn Aberdâr i ddechrau recordio’r caneuon cyn symud yn reit handi at Cranc yng Nghaerdydd i recordio’r lleisiau.

Bydd Blociau Lliw yn dechrau darlledu ar Cyw fis Hydref

 

 

 

Crawc a’i Ffrindiau ar Cyw

Edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda Ho Ho Rights i ddod â Crawc a’i Ffrindiau, i wylwyr Cyw.
Wedi ei seilio ar lyfrau’r Albanwr Kenneth Grahame,
The Wind in the Willows, mae’r gyfres newydd hon yn addasiad o’r gyfres Toad and Friends.
Ni’n edrych ymlaen yn arw at fynd nôl mewn i’r stiwdio i recordio gyda thalent lleisio gwych o Gymru , gan obeithio na fydd lleisau neb yn crawcian yn ormodol!

 

Cydlynydd cynhyrchiad / ymchwilydd

Mae Cynyrchiadau Twt yn chwilio am gydlynydd / ymchwilydd i weithio ar gyfres 2 o ‘Caru Canu a Stori’ ar gyfer Cyw / S4C.

Bydd tua 15 diwrnod o waith dros gyfnod o 5 wythnos o ganol Mehefin at ganol mis Gorffennaf.

Byddi’n gweithio o adre ond bydd gofyn i ti fod ar gael ar gyfer 5 niwrnod o ffilmio mewn stiwdio yn y Barri, Bro Morgannwg.

Y prif ddyletswyddau fydd paratoi sgriptiau ar gyfer mynd i’r stiwdio, trefnu propiau, logio siots ar leoliad a pharatoi ffurflenni metadata.

Bydd gwaith achlysurol arall hefyd.

Os oes gen ti brofiad yn y maes a diddordeb yn y gwaith, anfona dy CV at info@twtproductions.cymru

Mae rhai o benodau cyfres 1 ar gael i’w gwylio yma:

https://www.s4c.cymru/clic/programme/809182132